'Trawsnewid' un o brif wobrau Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Bydd un o brif wobrau Eisteddfod yr Urdd, Medal y Dysgwyr, yn cael ei "thrawsnewid".
Canolbwyntio ar gyfathrebu yn Gymraeg yn hytrach na darn ysgrifenedig fydd yn digwydd eleni, meddai'r mudiad ieuenctid.
Bydd yr oedran cystadlu hefyd yn cael ei ymestyn o 19 i 25.
Mae'r pwyslais am fod ar ddefnydd o'r iaith, a bydd yn bosib i unigolion wneud cais eu hunain neu gael rhywun arall i'w henwebu.
Ar ôl cwblhau ffurflen gais, bydd gwahoddiad i ymgeiswyr i Glan Llyn i wneud amryw o dasgau, gan gynnwys adeiladu tîm.
Yn dilyn hynny, bydd yr unigolion yn cael eu cyfweld gan y beirniaid, sef Nia Parry ac Enfys Davies.
Gwahoddiad
Bydd y tri sydd ar y brig yna'n cael eu gwahodd i Eisteddfod yr Urdd yn Fflint, lle bydd rhagor o dasgau yn eu disgwyl, fel gweithio yn y Ganolfan Groeso a'r bwth tocynnau a gwneud cyfweliad gyda'r cyfryngau.
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar y prif lwyfan.
Daw'r newid yn dilyn argymhellion gan Banel Dysgwyr Canolog yr Urdd a dywedodd y cadeirydd, Llinos Penfold:
"Roeddem yn teimlo ei bod yn amser newid ychydig ar y gystadleuaeth gan dynnu'r ffocws oddi ar yr elfen academaidd a'i hagor i unigolion sydd yn frwdfrydig iawn dros yr iaith ond falle ddim mor gryf yn ysgrifennu.
"Mae'n wych fod yr Urdd wedi derbyn ein hargymhellion - rydym yn teimlo ei bod bellach wedi ei thrawsnewid."