Apêl wedi gwrthdrawiad marwol yn Sir Caerffili
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A496 ger Pontlotyn, Sir Caerffili, am 13:18 ddydd Iau.
Bu farw Royston Carr, 83 oed o Abertyswg, yn y gwrthdrawiad.
Dywedodd ei deulu: "Roedd Roy yn ddyn caredig, gofalgar a gonest.
"Roedd o'n ddyn oedd mor falch o fod yn Gymro ac yn falch o'i etifeddiaeth. Bydd colled mawr ar ei ôl ond ni af yn angof."
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.