Babi Simon Lewis gafodd ei ladd hefyd wedi marw

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae babi dyn gafodd ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad Nos Galan hefyd wedi marw.

Mi fuodd Simon Lewis o Trowbridge, Caerdydd farw wedi'r ddamwain rhwng dau gar ar Ffordd Lamby.

Mi oedd gwraig feichiog Simon Lewis a'i merch dair oed, Summer, hefyd yn y car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

O achos y ddamwain cafodd y babi ei eni dri mis yn fuan trwy enedigaeth Gesaraidd fore dydd Sul.

Ond mi fuodd y bachgen bach farw yn hwyrach y diwrnod hwnnw.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio ar dystion i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101.