Marwolaweth athletwr Olympaidd o Abertawe

Malcolm "Gomer" Lloyd Image copyright Arall
Image caption Malcolm "Gomer" Lloyd yn 1979

Mae teyrngedau wedi eu rhoi yn dilyn marwolaeth dyn o Abertawe a gynrychiolodd Prydain yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn y 1970au a'r 80au yn y gamp bobsleigh.

Fe gymerodd Malcolm "Gomer" Lloyd, 68, o Benlle'r-gaer, Abertawe, ran mewn rasys bobsleigh mewn pedwar o Gemau Olympaidd, gan ddod yn 10fed yn Sarajevo yn 1984.

Roedd yn gyfrifol am hyfforddi timau o Brydain, yr UDA, Canada, yr Eidal a Rwsia ac roedd yn hyfforddi tîm Korea pan fu farw ddydd Sul.

Fe ddioddefodd salwch sydyn tra ar wyliau, ac fe wnaeth profion meddygol ddarganfod ei fod yn dioddef o ganser.

Roedd Mr Lloyd wedi ymgartrefu yng Nghanada, ac fe ddaeth yn gyfaill i Dywysog Albert o Monaco tra roedd yn hyfforddi ei dîm am gyfnod.

Teyrnged

Rhoddodd y Gymdeithas Bobsleigh a Skeleton Brydeinig (BBSA) deyrnged iddo, gan ddweud ei fod wedi hyfforddi Nicola Minichiello a Gillian Cooke i fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Byd yn Lake Placid yn 2009.

"Mae Bobsleigh wedi colli un o'i gymeriadau mwyaf," dywedodd Gary Anderson, cyfarwyddwr perfformiad bobsleigh Prydain.

"Roedd gan Gomer angerdd gwirioneddol am y gamp ac roedd yn fodlon cynnig cymorth a rhannu ei wybodaeth. Mae gan Brydain gymaint i ddiolch iddo ac fe fydd colled fawr ar ei ôl."

Ychwanegodd prif weithredwr cymdeithas y BBSA, Richard Parker: "Rydym wedi ein tristau o glywed am farwolaeth Gomer Lloyd - dyn oedd wedi chwarae rhan bwysig a thrawiadol yn hanes bobsleigh balch ei wlad.

"Rydym yn ddiolchgar am ei holl ymdrechion dros gymaint o flynyddoedd ac rydym yn meddwl am ei deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn."