Gwrthdrawiad Sir Fynwy: Cyhoeddi enw dyn fu farw

A449 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A449 rhwng Rhaglan a Brynbuga

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn 42 oed fu farw wedi gwrthdrawiad ar yr A449 yn Sir Fynwy fore Sul.

Bu farw Mark Crabtree o Hertfordshire yn y gwrthdrawiad ar lôn ddeheuol y ffordd rhwng cyfnewidfa A40 Rhaglan a chyfnewidfa A472 Brynbuga am tua 09:30.

Doedd dim un cerbyd arall yn rhan o'r ddamwain.