Gyrwyr trenau i fynd ar streic ar 4 Ionawr
- Cyhoeddwyd

Dywed undeb Aslef y bydd gyrwyr trenau Arriva yn cynnal streic 24 awr ar ddydd Llun 4 Ionawr oherwydd anghydfod ynglŷn â thaliadau ac amodau gwaith.
Yn ôl yr undeb fe fydd yn rhaid i gwmni Trenau Arriva Cymru ganslo pob gwasanaeth.
Mae aelodau'r undeb wedi bod yn gwrthod gweithio oriau ychwanegol am y tridiau diwethaf.
Dywed Aslef eu bod wedi derbyn amodau cytundeb cyflog, ond fod anghydfod yn parhau ynglŷn â newidiadau i amodau gwaith.
Dywed Arriva eu bod wedi eu siomi gyda'r penderfyniad i amharu ar y gwasanaeth.
Yn ôl llefarydd fe allai'r streic hefyd effeithio ar rai gwasanaethau yn ystod bore 5 Ionawr.
Dywedodd y dylai cwsmeriaid wneud trefniadau gwahanol ar gyfer dydd Llun, ac i gadw golwg ar y sefyllfa ddydd Mawrth.
Ym mis Tachwedd penderfynodd Aslef roi'r gorau i streic oedd wedi ei threfnu.
Straeon perthnasol
- 11 Tachwedd 2015
- 11 Tachwedd 2015
- 18 Rhagfyr 2015