Jihadydd o Gaerdydd yn cael ei ladd yn Syria
- Cyhoeddwyd

Mae dyn busnes o Gaerdydd, oedd yn hacio cyfrifiaduron ar ran y grŵp IS, wedi ei ladd yn Syria yn dilyn ymosodiadau o'r awyr gan yr Unol Daleithiau.
Dywed y Pentagon fod Siful Haque Sujan, oedd yn wreiddiol o Bangladesh, wedi ei ladd ger dinas Raqqah ar 10 Rhagfyr.
Roedd Mr Sujan yn cael ei ddefnyddio fel haciwr gan IS, gan gynnwys ceisio datblygu technoleg i gelu symudiadau IS a gwella'r arfau oedd ar gael iddynt.
Roedd yn un o 10 o aelodau blaenllaw IS ei gael eu lladd mewn cyfres o ymosodiadau o'r awyr.
Dywedodd y cyrnol Steve Warren ar ran y Pentagon: "Nawr ei fod wedi marw, mae ISIL wedi colli prif gyswllt rhwng eu rhwydweithiau."
Dywedodd aelodau o'r gymuned Bangladesh yng Nghaerdydd eu bod wedi eu syfrdanu gan y newyddion, ac nad oedd yna unrhyw arwyddion ei fod wedi cael ei radicaleiddio.
Mae'r BBC yn deall fod Sujan wedi gadael y DU yng Ngorffennaf 2014 gan deithio i Syria.
Ymateb yr heddlu
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Lee Porter o Heddlu'r De ac Uned Gwrth Derfysgaeth eu bod yn ymwybodol o adroddiadau yn y wasg fod Siful Haque Sujan wedi ei ladd yn Syria.
"Ni allwn gadarnhau na gwadu cywirdeb yr adroddiadau ar hyn o bryd, ond rydym yn cydweithio gyda phartneriaid er mwyn gwybod beth yn union sydd wedi digwydd," meddai.
"Tra rydym yn deall fod Mr Sujan wedi byw a gweithio yn ne Cymru, roedd wedi gadael y DU yn 2014, ac felly nid Cymru oedd ei gartref pan ymddangosodd yr adroddiadau am ei farwolaeth."
"Mae gennym strategaeth eang sydd â'r nod o adnabod a rhwystro pobl sydd am deithio i Syria. Mae llawer o'r gwaith yma yn cael ei wneud wrth gydweithio'n agos gyda'r Llywodraeth a'r lluoedd diogelwch.
"Ein cyngor yw i bobl beidio â theithio i Syria - a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r llinell gwrth derfysgaeth ar 0800 789 321."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Nid ydym yn gwneud sylwadau ar achosion unigol."