Llifogydd: Prif weinidog i ddychwelyd

Mi aeth Carwyn Jones i edrych ar ran o'r A55 ger Tal-y-bont gafodd ei daro gan lifogydd, ond ni wnaeth gyfarfod â phobl y pentre'
Image caption Mi aeth Carwyn Jones i edrych ar ran o'r A55 ger Tal-y-bont gafodd ei daro gan lifogydd, ond ni wnaeth gyfarfod â phobl y pentre'

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi ymweld â rhannau o'r gogledd gafodd eu heffeithio gan lifogydd yn ddiweddar.

Wrth ymweld â threfi Llanrwst a Biwmares, dywedodd Mr Jones ei fod eisiau gweld sut yr effeithiodd y llifogydd ar wahanol gymunedau.

Ond roedd siom i rhai o drigolion pentref Tal-y-bont, Bangor, wedi i'r prif weinidog fethu â dod i'w gweld nhw.

Bydd felly'n dychwelyd i'r pentref yr wythnos nesaf.

Yn ystod ei ymweliad, dywedodd Mr Jones y bydd rhaid "edrych os yw'r cynlluniau presennol i osgoi llifogydd yn ddigonol."

Cadarnhaodd y byddai Llywodraeth Cymru yn clustnodi £1 miliwn i warchod cartrefi ac eiddo, gyda'r arian yn cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud gwaith adnewyddu yn y tymor byr.

'Dryswch'

Buodd Mr Jones yn edrych ar ffordd yr A55 ger Tal-y-bont, gafodd ei effeithio'n arw gan lifogydd.

Roedd rhai o drigolion Tal-y-bont wedi ymgynnull gan ddisgwyl y prif weinidog yn y pentref, ond wnaeth Mr Jones ddim mynd yno.

Daeth datganiad gan lefarydd yn ddiweddarach i ddweud y byddai'n dychwelyd ddydd Mawrth, 5 Ionawr.

Dywedodd y llefarydd: "Mae'n ddrwg iawn gennym am unrhyw ddryswch.

"Nid oeddem yn ymwybodol bod grŵp o drigolion yn disgwyl amdano - petaen ni'n gwybod fe fyddai wedi mynd i'w cyfarfod, a dyna pam y mae'n dychwelyd ddydd Mawrth."

Lefel uchel

Yn siarad ar BBC Radio Wales fore Iau, dywedodd Mr Jones fod angen asesu'r mesurau gwrth-lifogydd presennol.

"Mae lefel y llifogydd 'dyn ni'n ei weld yn uwch nag erioed," meddai.

"Mae rhaid inni fynd i'r afael â hynny, ac mae rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru edrych os yw'r cynlluniau presennol i osgoi llifogydd yn ddigonol at y dyfodol."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Carwyn Jones yn siarad ym Miwmares

Wrth ymweld ag amddiffynfeydd llifogydd yn Nyffryn Conwy, fe rybuddiodd Mr Jones nad ydi hi'n bosib amddiffyn pob cymuned rhag llifogydd.

Ond dywedodd fod amddiffynfeydd fel y rhain yn golygu fod Cymru wedi osgoi'r problemau difrifol darodd rhannau arall y DU.

"Mi gawson ni fwy o law yng ngogledd Cymru na gogledd Lloegr, ac fe gawson ni'n heffeithio llai," meddai.

"Oedd, mi oedd hi'n sefyllfa erchyll i'r rhai gafodd eu heffeithio. Mi gafodd Capel Curig fwy o law nac unrhyw le yn Cumbria a Sir Efrog.

"Ond mi ddaliodd ein hamddiffynfeydd ni, ar y cyfan."

Cynhadledd frys

Mae Plaid Cymru wedi galw am gynhadledd frys i ymateb i'r llifogydd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC: "Mae'r prif weinidog wedi teithio i'r ardaloedd gafodd eu heffeithio o'r diwedd, ond mae angen iddo weithredu'n bositif i wneud yr ardaloedd hyn yn fwy dygn.

"Dylai ddechrau drwy drefnu cynhadledd frys sy'n dod ag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a swyddogion y llywodraeth at ei gilydd i drafod sut y gallwn ni ymdopi'n well ag achosion o dywydd eithafol.

"Mae arbenigwyr yn dweud y bydd tywydd garw'n fwy cyffredin yn y dyfodol, ac mae rhaid i'r llywodraeth Lafur edrych ar gynlluniau i atal y fath niwed rhag digwydd yma ac mewn ardaloedd eraill."

Image copyright Alys Haf
Image caption Cafodd Tal-y-Bont ger Bangor ei daro'n galed gan lifogydd dros y penwythnos
Image copyright Llinos Davies
Image caption Cafodd ceir eu dal ar yr A55 ger Llandygai

Straeon perthnasol