Damwain: Bachgen yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol

Stafell reoli
Image caption Roedd y ddamwain am 15:30 ddydd Llun

Mae bachgen 14 oed yn yr ysbyty oherwydd anafiadau difrifol i'w ben.

Fe darodd bws y bachgen oedd ar feic am 15:30 ddydd Llun tu allan i Kwik Fit yn Heol Casnewydd, Caerdydd.

Dylai unrhyw dystion ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111, gan ddyfynnu 1500 477 117.