Llifogydd: Ail-agor dwy brif ffordd yn y gogledd
- Published
Mae dwy o brif ffyrdd y gogledd - yr A55 a'r A5 - wedi ail-agor yng Ngwynedd a Chonwy ar ôl bod ar gau trwy ddydd Sadwrn o achos llifogydd difrifol.
Bu'n rhaid i nifer o deithwyr gael lloches yn neuadd tref Llanfairfechan nos Sadwrn ar ôl methu teithio ymhellach ar yr A55 i gyfeiriad y gorllewin.
Roedd yr A5 ar gau fore Sul yng Nghorwen, ynghyd a'r A470 rhwng Llanrwst a Glan Conwy - a'r ffyrdd o Fiwmares i Borthaethwy a Phentraeth ym Môn.
Yng Ngwynedd roedd ffordd yn ardal Glan yr Afon ym Mhenrhos ger Pwllheli ar gau am gyfnod hefyd, cyn iddi ail-agor ganol bore dydd Sul. Mae Pont Dyfi bellach wedi ailagor ger Machynlleth.
Mae yna bedwar o rybuddion llifogydd mewn grym ar draws Cymru ar hyn o bryd.
Trenau
Roedd y rheilffordd rhwng Caergybi a Chyffordd Llandudno ar gau am gyfnod, a'r llwybr rhwng Amwythig ac Aberystwyth hefyd, ond mae'r llwybrau hyn bellach yn agored.
Mae disgwyl y bydd y rheilffordd rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog ar gau am nifer o ddyddiau yn dilyn llifogydd yng ngorsaf Gogledd Llanrwst. Dywed cwmni trenau Arriva Cymru y dylai teithwyr edrych am y wybodaeth ddiweddaraf cyn dechrau ar eu taith.
Trafferthion dydd Sadwrn
Roedd trafferthion mawr ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd ddydd Sadwrn, gyda'r A545 ger Biwmares ar gau gyda rhybudd am dirlithriad posib. Yno hefyd bu'n rhaid i rai trigolion adael eu cartrefi am gyfnod a symud i ganolfan hamdden y dref.
Bu'n rhaid i Wylwyr y Glannau gynorthwyo ym Miwmares, ond fe fu'n rhaid i nifer o drigolion symud o'u tai hefyd yn Llandwrog a Bontnewydd ger Caernarfon, gyda phobl naill ai'n mynd i' dafarn leol (Bontnewydd) neu neuadd y pentref (Llandwrog) er mwyn osgoi'r llifogydd.
Wedi noson o law trwm ar hyd y rhanbarth fe ddywedodd Traffig Cymru bod tair o briffyrdd yr ardal ar gau. Roedd yr A470 tua'r gorllewin ym Metws-y-Coed ar gau, a'r A5 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Bethesda a Chapel Curig. Roedd yr A470 hefyd ar gau rhwng Llanrwst a'r A55 C19 (Glan Conwy).
Ond roedd y trafferthion mwyaf ar yr A55. Bu prif ffordd y gogledd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng C11 (A5 Bethesda) i C15 (Llanfairfechan) am y rhan fwyaf o'r dydd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd nad oedd modd dargyfeirio'r traffig o'r A55 gan bod y ddwy ffordd arall hefyd ar gau ar y pryd.