Llifogydd difrifol: Rhybuddion

Cafodd ceir eu dal ar yr A55 ger Llandygai Image copyright Llinos Davies
Image caption Cafodd ceir eu dal ar yr A55 ger Llandygai

Mae llifogydd yn achosi trafferthion ar hyd nifer o ffyrdd yng ngogledd Cymru ddydd Sadwrn.

Erbyn diwedd y prynhawn roedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi trydar y rhybudd:

"Llifogidd difrifol ac eang ar yr Ynys sydd yn peri risg i fywyd ac eiddo. Os oes rhaid i chi yrru, byddwch yn hynod o ofalus."

Am 11:30 ddydd Sadwrn fe wnaeth y Swyddfa Dywydd uwchraddio rhybudd am law trwm o un melyn i un ambr. Roedd rhybudd mewn grym tan 23:00 ar draws siroedd Dinbych, Gwynedd a Chonwy, ond roedd llawer o'r difrod eisoes wedi ei wneud.

Roedd trafferthion mawr ar Ynys Môn gyda'r A545 ger Biwmares ar gau gyda rhybudd am dirlithriad posib. Yno hefyd bu'n rhaid i rai trigolion adael eu cartrefi am gyfnod a symud i ganolfan hamdden y dref.

Wedi noson o law trwm ar hyd y rhanbarth fe ddywedodd Traffig Cymru bod tair o briffyrdd yr ardal ar gau. Roedd yr A470 tua'r gorllewin ym Metws-y-Coed ar gau, a'r A5 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Bethesda a Chapel Curig. Roedd yr A470 hefyd ar gau rhwng Llanrwst a'r A55 C19 (Glan Conwy).

Ond roedd y trafferthion mwyaf ar yr A55. Bu prif ffordd y gogledd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng C11 (A5 Bethesda) i C15 (Llanfairfechan) am y rhan fwyaf o'r dydd. Fe ddywed Heddlu'r Gogledd nad oes awgrym eto pryd y bydd y ffordd yn ailagor, ond mae disgwyl y bydd hi'n beth amser.

Fe ddywed Heddlu'r Gogledd nad oes modd dargyfeirio'r traffig o'r A55 gan bod y ddwy ffordd arall hefyd ar gau.

Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Ymddangosodd y llun yma ar gyfrif Twitter un o swyddogion Heddlu'r Gogledd o'r sefyllfa ger Tal-y-bont fore Sadwrn
Image caption Mae Ffordd Caernarfon ym Mangor fel afon ar hyn o bryd

Bu nifer o ffyrdd llai hefyd ar gau gan gynnwys y B5109 Llanfaes i Fiwmares ar Ynys Môn. Fe ddywed Heddlu'r Gogledd bod llifogydd ar yr A498 o Nant Gwynant i Feddgelert, a'r A4244 yn ardal Pentir ger Bangor, ac er nad yw'r ffyrdd yma wedi cau eto, mae cyngor i yrwyr fynd yn ofalus iawn os oes rhaid teithio ar hyd y lonydd yna.

Yn y cyfamser dywedodd Cyngor Gwynedd bod yr A499 ar gau yn ardal Riverside ym Mhwllheli - Penrhos, ac mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud bod Pont Ddyfi ar yr A487 wedi cau oherwydd llifogydd gan rybuddio gyrwyr i beidio ceisio'i chroesi.

Fe ddywedodd y Cyngor hefyd bod yr A4087 - ardal Ffordd Caernarfon ym Mangor - bellach wedi cau'n gyfan gwbl, ac mae'r un peth yn wir am yr A4086 yn ardal Llanberis/Cwm y Glo.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod wedi gosod amddiffynfeydd llifogydd mewn lle yn Llanelwy er mwyn ceisio gwarchod cartrefi rhag llifogydd yno, ac yn dweud bod lefel Afon Elwy wedi codi'n aruthrol.

Image copyright Twitter
Image caption Yr A55 rhwng Tal-y-bont a Llanfairfechan

Eisoes mae 13 rhybudd llifogydd mewn grym gan gynnwys ardaloedd Llanelwy (3), Dyffryn Dyfi, Dyffryn Conwy, Pwllheli, Dinbych-y-pysgod a dyffryn y Ddyfrdwy Isaf. Mae disgwyl mwy yn ystod y dydd.

Mae 38 o rybuddion i baratoi am lifogydd hefyd mewn grym ar draws Cymru gyfan.

Does dim golwg y bydd y sefyllfa'n gwella yn fuan.

Mae rhybudd coch mewn grym dros rannau o ogledd orllewin Lloegr, a'r gred ar hyn o bryd yw y bydd gogledd Cymru'n osgoi'r statws yna.

Image caption Nid yw'r darlun yn well yng nghanol Llanrwst chwaith
Image caption Canol tref Llanrwst

Mae gwrthbleidiau Cymru yn y Cynulliad wedi rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru am y llifogydd mewn rhai ardaloedd ddydd Sadwrn.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC o Blaid Cymru: "Dyma'r ail dro lle mae trigolion Talybont {ger Bangor} wedi diodde llifogydd difrifol a'r ail dro i'r A55 gau.

"Y tro diwethaf i hyn ddigwydd fe addawodd y gweinidog trafnidiaeth ar y pryd, Carl Sargeant, na fyddai hyn yn digwydd eto.

"Roedd Cyngor Gwynedd wedi cytuno ar gynllun i warchod y pentref a'r A55 ond fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod ariannu'r cynllun. Fe fyddai hynny wedi costio £1.5 miliwn, sy'n bitw o gymharu â'r £38 miliwn sydd eisoes wedi'i wario ar yr M4 ger Casnewydd."

Mae AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd a chyn-Ysgrifennydd Cymru David Jones hefyd wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am yr anhrefn ar yr A55. Mae trydar, fe ofynnodd a yw Llywodraeth Cymru yn malio o gwbl am fodurwyr gogledd Cymru?