Gohirio Grand National Cymru 2015

Grand National Cymru Image copyright Getty Images

Ni fydd ras geffylau Grand National Cymru yn cael ei chynnal ddydd Sul, 28 Rhagfyr, oherwydd y tywydd drwg.

Roedd y cwrs eisoes yn dirlawn, a gyda mwy o law i ddisgyn gydol ddydd Sadwrn, bu'n rhaid ail drefnu'r ras.

Cafodd y cwrs ei archwiio fore Sadwrn am 08:00, ac roedd y penderfyniad yn un amlwg.

Bydd y ras nawr yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 9 Ionawr.

Mewn campau eraill, mae dwy gêm bêl-droed yn Uwchgynghrair Cymru - Y Rhyl v. Bala a Llandudno v. Bangor - hefyd wedi cael eu gohirio oherwydd y glaw.