£2.8m i brosiectau cymunedol
- Cyhoeddwyd

Capel y Bedyddwyr yn Argoed, Caerffili, fydd yn derbyn buddsoddiad o £267,000
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £2.8m mewn prosiectau cymunedol.
Y mentrau fydd yn elwa fwyaf fydd Canolfan Gymunedol Trefyclo, Powys, ac Ieuenctid a Chymuned Mynydd Cynffig, Corneli a'r Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr, fydd yn derbyn £500,000.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: "Mae'r prosiectau hyn yn hollbwysig i'w cymunedau, gan ddarparu gwasanaethau pwysig sy'n amrywio o gwnsela a gofal plant i gynnig lloches ar gyfer pobl ddigartref a chlybiau gwaith.
"Bydd y cyllid yn galluogi'r prosiectau hyn i ehangu eu gwaith ymhellach, gan agor eu drysau i hyd yn oed fwy o bobl o fewn y gymuned leol."
Y prosiectau fydd yn elwa yw:
- Ieuenctid a Chymuned Mynydd Cynffig, Corneli a'r Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr - £500,000
- Canolfan Gymunedol Trefyclo a'r Cylch, Powys - tua £500,000
- Fforwm Cymunedol Penparcau, Ceredigion - £490,000
- Neuadd Eglwys Sant Tomos y Merthyr, Sir Fynwy - £340,000
- Cymdeithas Lles Glowyr Cwm Trelái, Rhondda Cynon Taf - £281,000
- Capel y Bedyddwyr Argoed, Caerffili - £267,000
- Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Tabernacl, Sir Benfro - £228,000
- Capel y Bedyddwyr Underwood, Casnewydd - £130,000
- Old Illtydian RFC, Caerdydd - £97,000
- Ffrindiau Llyfrgell Gymunedol Llanfairfechan, Conwy - £32,000