Gadael Cymru: Rhwystredigaeth meddyg teulu o Ynys Môn

Dr Rhian Roberts
Image caption Dr Rhian Roberts

Mae trefn ail-hyfforddi meddygon teulu sy'n dychwelyd i Gymru ar ôl gweithio dramor wedi bod yn "anhyblyg" o ran hyd a chynnwys.

Dyna rybudd y Gymdeithas Feddygol wrth ymateb i achos meddyg o Fiwmares sydd wedi dod yn ôl i Gymru wedi saith mlynedd yn gweithio yn Seland Newydd.

Ond 18 mis ers dychwelyd mae Dr Rhian Roberts wedi penderfynu mynd yn ôl i Seland Newydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod mesurau newydd wedi eu cyflwyno i sicrhau fod meddygon sydd am ddod yn ôl i Gymru yn gallu gwneud hynny heb orfod wynebu cymaint o rwystrau ag oedd o'r blaen.

'Cymhleth iawn'

Ar raglen y Post Cyntaf ddydd Iau dywedodd Dr Roberts: "Roeddwn i'n bartner yn Seland Newydd ac yn gobeithio bod hynny'n mynd i fod yn gymhwyster i mi wrth ddod yn ôl i Gymru ... ond, yn anffodus, sylweddolais i fod yna system gymhleth iawn i ail-ymuno fel meddyg teulu.

"Nid yn unig roeddwn i'n gorfod bod yn aelod o'r General Medical Council ond hefyd yn gorfod bod ar restr leol - y medical performers list a hynny oedd y prif rwystr i fi, gan sylweddoli bod rhaid i mi wneud amryw o arholiadau ysgrifenedig a chlinigol, ac wedyn ar sail hynny gael cyfnod mewn practis dan arolygaeth, a hynny am gyfnod o dri i chwe mis ar gyflog digon pitw."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dr Rhian Roberts ar y Post Cyntaf

Ddiwedd y flwyddyn mi fydd hi, ei gŵr a'r plant yn gadael Biwmares ar ôl blwyddyn a hanner rwystredig, meddai.

Dywedodd y byddai'n ôl yn gweithio yn ei syrjeri fel meddyg teulu o fewn pum niwrnod yn Seland Newydd.

'Siomedig'

Er bod meddygon teulu'n brin yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, meddai, roedd hi'n siomedig iawn nad oedd modd ail-gydio yn ei gwaith yng Nghymru heb orfod ail-sefyll arholiadau ysgrifenedig a chlinigol.

Ond dywedodd y llywodraeth fod y mesurau newydd yn cynnwys asesiad o alluoedd unigolion er mwyn adnabod y rhai allai ddod nôl i weithio efo cyn lleied o gefnogaeth â'r rhai fyddai angen mwy o gymorth.

Fe fyddai ymgeiswyr sy'n byw dramor, o dan y drefn newydd, yn gallu cael cyfweliad ac asesiad cychwynnol cyn dod i Gymru fel bod modd cytuno ymlaen llaw ar ddod nôl i weithio fel meddyg teulu.

'Ail-gynefino'

Deoniaeth Cymru - Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd - yw'r corff sy'n delio efo hyfforddiant arbenigol meddygon teulu.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd: "Mae'r Cynllun Dychwelyd yn cynnig cyfle i feddygon teulu - sy' wedi cael eu hyfforddi ym Mhrydain ond sydd heb weithio yma ers dwy flynedd neu fwy - i ail-gynefino efo'r Gwasanaeth Iechyd dan oruchwyliaeth.

"Mae'r cynllun yn bwysig o safbwynt diogelwch cleifion gan ei fod yn rhoi asesiad gwrthrychol o allu'r meddyg i'r bwrdd iechyd lleol sy'n penderfynu a ddylai'r meddyg gael ei gynnwys ar y rhestr."

Ychwanegodd y datganiad: "Mae'n rhaid i Ddeoniaeth Cymru fod yn deg efo pob ymgeisydd. Does ganddon ni ddim system o fynd ar ôl meddygon a oedd wedi gwrthod y cyfle i fynd ar y cwrs ond mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ystyried ei weithredu."

'Hap a damwain'

Wrth drafod y newidiadau i'r drefn, dywedodd Dr Roberts: "Mae'r system yn dipyn mwy rhwydd yn Seland Newydd - dwi'n teimlo 'mod i'n cael tipyn mwy o groeso na ches i yn fan yma.

"Ym mis Mawrth y newidiodd y canllawiau ond rhaid i mi gyfadde', jyst dod ar draws y newidiadau ar hap a damwain 'nes i wrth siarad mewn gweithdy ynghylch y sefyllfa.

"Ond wnaeth neb yn sicr wneud y sefyllfa yn amlwg i fi ac, yn anffodus, mae hynny'n golygu bod hi'n rhy hwyr i mi rŵan fedru gweithio fy ffordd drwy'r broses eto.

"Er eu bod nhw'n sôn bod newidiadau i'r canllawiau, dwi ddim wir wedi cael unrhyw sicrwydd sut fasa hynny yn cael effaith arna i'n unigol."

Dywedodd Y Gymdeithas Feddygol y dylai gwella cynlluniau dychwelyd-i-waith fod yn ystyriaeth ganolog wrth gadw meddygon teulu mewn gwaith yng Nghymru ac fe ddylai fod digon o arian ar gael i helpu meddygon sydd am ddychwelyd i Gymru i weithio.

Hefyd dywedodd y dylai'r cynllun dychwelyd-i-waith fod am gyfnod byrrach i weithwyr oedd wedi gweithio mewn gwledydd lle oedd y system iechyd yn debyg i'r GIG yng Nghymru.