Pyncs Cymru a'r Sex Pistols

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, The Sex Pistols, y band ynghanol chwyldro cerddorol y 70au

Mae amryw yn cyfrif 14 Rhagfyr 1976 fel dyddiad roddodd ysgytwad i gerddoriaeth yng Nghymru.

Roedd 'na brotestio ffyrnig yng Nghaerffili i groesawu grŵp pync The Sex Pistols a oedd wedi eu gwahodd i berfformio yn sinema'r Castle yn y dref.

Cyn hyn roedd John Lydon, Paul Cook, Glenn Matlock a Steve Jones wedi perfformio yng Nghymru heb wynebu'r un gwrthwynebiad. Newidiodd popeth ar ôl i'r Pistols regi ar raglen deledu Bill Grundy a oedd yn cael ei darlledu yn fyw amser te ar 1 Rhagfyr.

Er gwaetha'r cyhuddiadau yn eu herbyn, mi lwyddodd The Sex PIstols a'u hagwedd ddi-gyfaddawd i ysbrydoli cenedlaethau o gerddorion ifanc. Dyma i chi rai o'r bandiau Cymraeg gafodd eu dylanwadu gan y diwylliant pync dros y blynyddoedd:

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans
Disgrifiad o’r llun, Datblygu - Dave R Edwards a Pat Morgan
Disgrifiad o’r llun, Llwybr Llaethog
Ffynhonnell y llun, Nici Beech
Disgrifiad o’r llun, Dewi Emrys a Gruff Rhys o Ffa Coffi Pawb yn y Cŵps, Aberystwyth
Ffynhonnell y llun, Rhys Mwyn
Disgrifiad o’r llun, Y Fflaps
Ffynhonnell y llun, Medwyn Jones
Disgrifiad o’r llun, Ian Morris, lleisydd egniol Tynal Tywyll
Ffynhonnell y llun, Medwyn Jones
Disgrifiad o’r llun, U Thant
Ffynhonnell y llun, Medwyn Jones
Disgrifiad o’r llun, Huw Huws, canwr Brodyr y Ffîn. Bu farw yn ifanc mewn tân mewn fflat ble roedd yn aros.
Ffynhonnell y llun, Medwyn Jones
Disgrifiad o’r llun, Mark Roberts, canwr y Cyrff
Disgrifiad o’r llun, Tŷ Gwydr
Ffynhonnell y llun, Medwyn Jones
Disgrifiad o’r llun, Gorky's Zygotic Mynci