Lluniau'r Flwyddyn 2015

Cyhoeddwyd

Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i ffotograffwyr Cymru Fyw. Dyma i chi stori'r flwyddyn mewn lluniau.

Disgrifiad o’r llun,
"Rwyt Ionawr yn oer a'th farrug yn wyn". Roedd Llanbrynmair ymhlith yr ardaloedd gafodd ddos go drwm o eira ddechrau'r flwyddyn
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y tywydd yn brafiach ym mis Chwefror fel mae'r llun hwn o'r drudwyod yn dychwelyd i noswylio ar bier Aberystwyth yn ei awgrymu
Disgrifiad o’r llun,
Gwenu dros Gymru: Gŵyl Ddewi yng Nghaernarfon ddechrau Mawrth
Disgrifiad o’r llun,
Yr haul yn machlud ar Lyn Padarn yn Eryri fis Ebrill
Ffynhonnell y llun, Jenna Loves Photography
Disgrifiad o’r llun,
Carped o glychau'r gog yng Ngwarchodfa Natur Dinas Gwenffrwd yn Rhandirmwyn, Powys ym mis Mai
Disgrifiad o’r llun,
Pendinas yw enw'r cwch sy'n hwylio i gyfeiriad... Pendinas, ger Aberystwyth ym mis Mehefin
Disgrifiad o’r llun,
Gwyliau'r haf a'r plant yn mwynhau chwilio am grancod ym Marina Conwy?
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y trên yn atyniad prysur yn Gala Stêm, Llanuwchllyn
Disgrifiad o’r llun,
Cerddwr unig ar ben y bryn ym mharc Grangemoor, Caerdydd ym mis Medi
Disgrifiad o’r llun,
Blodyn unig yn brwydro yn erbyn effeithiau'r hydref
Disgrifiad o’r llun,
Cae o lysiau ar Benrhyn Gŵyr
Ffynhonnell y llun, Richard Outram
Disgrifiad o’r llun,
Afon Idwal, Dyffryn Ogwen yn oriau mân y bore yn rhoi syniad clir i ni pam bod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ennill statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Rhyngwladol ym mis Rhagfyr