Saith Diwrnod

Tîm Prydain yn ennill y Davis Cup Image copyright Getty Images
Image caption Tîm Prydain yn ennill y Davis Cup - ddylai Cymru lawenhau?

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau ar raglen y Post Cyntaf.

Mae gan Aled Sam rhyw fath o ddiddordeb, 'sbecian dros dop ei bapur newydd', mewn tenis, dywed wrthym yn Golwg. Hynny yw, mae'n gallu gwylio ambell i gêm yn ystod Wimbledon heb droi'r sianel i weld os oes yna baent yn sychu ar ryw sianel arall.

Ond mae'n holi a all unrhyw un esbonio pam y dylai fod yn llawenhau oherwydd bod Prydain wedi llwyddo i ennill y Davis Cup.

Mae gweld y tymhestloedd o orfoledd dros y dŵr yng Ngwlad Belg, wrth i Andy Murray guro rhywun oedd prin allan o'r ysgol feithrin yn nhermau tenis, wedi ei ddrysu braidd.

Ac o edrych i lawr y rhestr o chwaraewyr, pwy oedd y bobl yma roddodd gymaint o her i dîm Prydain? Ac ar wahân i Andy Murray a'i frawd, doedd Aled chwaith ddim yn nabod neb oedd yn chwarae dros Brydain.

Yn wir, dywed y gallech chi fod wedi'u pasio nhw yn Wilkinsons Llanelli heb wybod pwy oedden nhw.

Mae Glyn Adda wedi bod yn bodio drwy Lyfr Mawr Lol, cyfrol sy'n dathlu hanner canmlwyddiant y cylchgrawn dychanol, ac er bod ynddo lu o wynebau ac enwau sy'n dod yn ôl yn fyw iawn o'r gorffennol, ceir ambell un arall y bu'n rhaid clirio ychydig ar y niwl cyn cofio pwy oedd a beth oedd ei bechod.

Ac wrth edrych nôl ar gyfnod y cylchgrawn, mae'n holi tri chwestiwn: Beth yw'r Sefydliad? Beth yw gwerth dychan? Pa ffordd yr ydym yn mynd?

Yn ôl Glyn Adda, yng Nghymru mae'r Sefydliad Prydeingar a'r Sefydliad Cenedlaetholaidd yn gorgyffwrdd ac yn cyd-ymwau, gyda drysau troi-rownd yn arwain yn hwylus o un i'r llall.

Nid yw dychan ynddo'i hun yn mynd i ddiwygio unigolyn na chymdeithas, er bod gwerth iddo, ac o ran y ffordd rydyn ni'n mynd, ar ôl deffroad gwleidyddol-ddiwylliannol cyfnod sefydlu Lol yn y chwedegau, i lawr, i lawr ac i lawr mae pethau wedi mynd yng Nghymru dros y 35 mlynedd diwethaf.

Môr-leidr y Nadolig?

Cyn i ni ddigalonni'n llwyr, beth am edrych 'mlaen at y Nadolig? Mae croten y Saesnes yng Nghymru yn paratoi ar gyfer sioe ysgol y Nadolig. Ife Mair yw hi? Tafarnwr? Asyn, efallai? Nage siŵr! Mae'n fôr-leidr. Oherwydd, beth gall fod yn fwy Nadoligaidd na môr-leidr?

Er hynny, mae'r Saesnes yn ffyddiog bydd y cyfan yn diweddu mewn beudy, gyda'r baban Iesu yn y preseb. Fe fydd plantos bach yn ei gynnau llofft a llieiniau sychu llestri ar eu pennau, yn dal ffon tad-cu wedi'i throi'n ffon fugail.

Image caption Pryd wnaeth Ieuan (chwith) gyrraedd y sioe yma 'sgwn i?

Bu Ieuan Rhys yn troedio llwyfannau ar draws Prydain dros gyfnod y Nadolig ers blynyddoedd. Ar Cymru Fyw mae'n rhannu ei hanes yn actio mewn pantomeimiau, o 'Snow White' yn y Coliseum, Aberdâr i 'Aladdin' yn Sheffield eleni.

Ond er bod Ieuan yn gorfod gweithio Noswyl y Nadolig a Dydd San Steffan, mae'n ffaelu dychmygu peidio gweld y bois yn agor eu presantau ar fore 'Dolig, ac felly mae'n teithio adref bob blwyddyn i dreulio ychydig oriau gyda'i deulu dros yr ŵyl.

Ond cafodd drafferth ddwy flynedd yn ôl yn teithio fore San Steffan i Crawley i berfformio yn 'Cinderella' - doedd Ieuan ddim wedi meddwl am y miloedd o bobl eraill oedd yn heidio i sêls Llundain. Wedi cyrraedd yr M25 roedd yn styc... Ffonio'r cyfarwyddwr mewn panic a chyrraedd y theatr yn y pen draw â phum munud i'w sbario.

Oes, er gwaethaf pawb a phopeth, mae'n rhaid i'r sioe fynd yn ei blaen.