Monk yn gadael 'gyda thristwch mawr'

Gary Monk Image copyright Getty Images

Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, Garry Monk, wedi dweud ei fod yn gadael "gyda thristwch mawr" ond iddi fod yn fraint cael bod yn rhan o'r clwb dros y 12 mlynedd diwetha.

Dydd Mercher daeth y cyhoeddiad fod Monk wedi ei ddiswyddo ar ôl ennill dim ond un o'r 11 gêm diwethaf.

Mewn datganiad dywedodd Monk mai'r anrhydedd fwyaf iddo oedd cael gwisgo'r crys gwyn yn falch.

"Gyda thristwch mawr yr wyf yn gadael y clwb arbennig hwn. Dros y 12 mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod yn rhan o deulu Dinas Abertawe.

'Atgofion'

"Mae gen i atgofion gwych yn chwarae i'r Elyrch ac yna'n rheoli," meddai.

"Rwy'n credu'n gryf y gallen ni fod wedi dod drwy'r cyfnod diweddar hwn ond byddaf yn awr yn treulio fy amser yn ystyried ac yn barod am yr her nesaf."

Diolchodd i Huw Jenkins a bwrdd y cyfarwyddwyr, y chwaraewyr a'r cefnogwyr.

"Rwy'n dymuno'r gorau i deulu Dinas Abertawe yn y dyfodol."