BBC Cymru Fyw

Gwahardd pennaeth rhag dysgu am geisio dwyn o gronfa'r ysgol

Published
image copyrightWales News Service
Mae pennaeth ysgol wedi cael ei gwahardd rhag dysgu wedi iddi geisio dwyn £30,000 o gronfa ysgol er mwyn talu am waith adeiladu yn ei chartref.
Mae Sian Harkin, 54 oed, wedi ei gwahardd o'r stafell ddosbarth ar ôl mynd ag arian o gyfrif banc Ysgol Gynradd Llwyncelyn yn y Rhondda.
Fe ysgrifenodd sieciau i'r adeiladwr Lee Slocombe, gan ddweud bod yr arian yn mynd at dalu am loches glaw yn yr ysgol.
Cafodd Harkin ei charcharu am dwyllo, dwyn a ffugio nôl ym mis Ebrill.

Ffugio llofnod

Clywodd y gwrandawiad disgyblu mai Harkin oedd cadeirydd y pwyllgor oedd yn gyfrifol am gyfrif staff ei hysgol.
Dywedodd un o swyddogion y pwyllgor, Rachel Price: "Roedd Mrs Harkin yn gyfrifol am edrych ar ôl y cyfrif.
"Roedd yn rhaid i bob siec gael ei arwyddo gan o leiaf ddau aelod, Mrs Harkin, y dirprwy bennaeth ac athro arall cyn y bydden nhw'n cael eu caniatáu."
Ond cafodd ei harestio ar ôl i archwiliad mewnol ddarganfod y twyll, oedd yn cynnwys ffugio llofnod y dirprwy bennaeth.
Cafodd ei gwahardd rhag dysgu ar ôl i'r Cyngor Gweithlu Addysg ddod i'r casgliad ei bod "wedi dwyn anfri ar y proffesiwn."

Twyllo, dwyn a ffugio

Ym mis Ebrill, cafodd Harkin ei charcharu am 12 mis yn Llys y Goron Merthyr Tudful wedi iddi gyfaddef twyllo, dwyn a ffugio llawysgrifen.
Clywodd yr achos hwnnw fod yr adeiladwr Lee Slocombe wedi cael ei dalu £80,000 i wneud gwelliannau i gartref Harkin a'i theulu, ond iddo'i pherswadio i dalu arian o gronfa'r ysgol.
image copyrightWales News Service
Cafodd Slocombe ei garcharu am dair blynedd a saith mis yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Chwefror am dwyllo tri teulu o £40,000.