Gwrthdrawiad A1: Cyhoeddi enw Cymro fu farw
- Cyhoeddwyd

Roedd Mr Griffiths yn gyfarwyddwr ar gwmni yn Rhuthun.
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn o Sir Ddinbych fu farw wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A1 ger Harrogate yn Sir Gogledd Efrog.
Bu farw Neville Wyn Griffiths, 48 oed, o Graigfechan ger Rhuthun, ar ôl i'w gar BMW fod mewn gwrthdrawiad â lori.
Roedd Mr Griffiths yn gyfarwyddwr ar gwmni Direct Plant and Tools yn Stad Ddiwydiannol Lôn Parcwr yn Rhuthun.
Digwyddodd y gwrthdrawiad nos Wener, 4 Rhagfyr, rhwng Cyffyrdd 47 a 48 ar yr A1.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.
Ffynhonnell y llun, Google
Roedd y ddamwain ar yr A1 ger Harrogate