Mamolaeth: Dim newid, medd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn ad-drefnu gwasanaethau mamolaeth yn yr ardal.
Roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ystyried tynnu gwasanaethau mamolaeth o un o'r tri ysbyty yn y gogledd.
Dadl y bwrdd oedd nad oedd digon o staff i gynnal y gwasanaethau'n llawn ond fe gafodd y cynllun ei feirniadu'n chwyrn oherwydd y gallai teithio ymhellach arwain at fwy o beryglon.
Ond fore dydd Mawrth cytunodd aelodau'r bwrdd i gefnogi cynllun arall i gadw pethau fel ag y maen nhw.
Roedd y bwrdd iechyd wedi ffafrio tynnu gwasanaethau o Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, gan olygu mai dim ond merched risg isel fyddai'n mynd yno.
O dan y cynllun byddai merched â chymhlethdodau yn mynd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Maelor Wrecsam.
Daeth cannoedd o bobl i brotestio yn erbyn y cynlluniau ym mis Chwefror.
'Hollol annerbyniol'
Maen nhw'n chwarae 'efo bywydau mamau a babanod ifanc jyst i safio pres."
Ar ôl iddi roi genedigaeth i'w mab naw wythnos yn gynnar roedd un fam o ardal Caernarfon wedi dweud wrth Cymru Fyw ei bod yn "hollol annerbyniol ystyried israddio gwasanaethau" o un o ysbytai'r gogledd.
Dywedodd Ceri Rhiannon Roberts ei bod yn "hunllef" meddwl beth allai fod wedi digwydd pe bai hi wedi gorfod teithio ymhellach i gael ei mab.
Ond ddechrau mis Rhagfyr daeth i'r amlwg bod dogfen yn argymell cadw'r drefn fel y mae hi.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd bod y ddogfen "wedi ei seilio ar ystyriaeth fanwl o'r dystiolaeth a'r adborth ddaeth i law yn ystod y broses ymgynghori".
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd y dirprwy weinidog iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r ffaith fod y bwrdd wedi cymeradwyo'r argymhellion yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd, staff, menywod beichiog a chleifion yn y dyfodol agos.
"Serch hynny, rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd barhau i ymgynghori gyda'i staff a'r cyhoedd am ei gynlluniau wrth iddyn nhw gael eu datblygu."
Cost staff dros dro
Mae'r bwrdd hefyd yn trafod adroddiad sy'n dweud bod cost meddygon dros dro yng Nghymru ar gynnydd.
Dros y pedair blynedd diwethaf mae'r bwrdd iechyd wedi gwario £72m ar staff dros dro, sy'n 40% o'r cyfanswm gafodd ei wario gan fyrddau iechyd Cymru.
Yn 2014-15 cafodd £29.5m ei wario ar staff dros dro.