Cryfhau'r Gymraeg wrth gynnig gofal

gofal Image copyright Thinkstock

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth i wella'r ddarpariaeth yn Gymraeg i ddefnyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Daw'r newid yn dilyn cyhoeddi 'Mwy na Geiriau...', sef fframwaith strategol gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, a lansiwyd yn 2012.

Nod y strategaeth yw sicrhau mwy o gydnabyddiaeth ymhlith darparwyr gwasanaethau bod defnyddio'r Gymraeg yn fater o ddewis - sy'n arbennig o bwysig i lawer o bobl fregus a'u teuluoedd sydd angen cael defnyddio gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf, megis pobl hŷn sy'n dioddef o ddementia neu strôc, sydd efallai wedi colli eu hail iaith, neu blant bach sydd o bosibl yn siarad dim byd ond Cymraeg.

Newid pwyslais

Fel rhan o ddull cryfach Llywodraeth Cymru, bydd angen i GIG Cymru, y gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol wneud y 'Cynnig Rhagweithiol' yn ganolog i'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu, drwy ymroi i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano.

Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen i wasanaethau:

  • Ofyn i'w defnyddwyr gwasanaeth nid yn unig beth sy'n bod arnynt ond beth sydd o bwys iddynt;
  • Prif ffrydio gwasanaethau Cymraeg fel rhan annatod o'r gwasanaeth a ddarperir ganddynt ac o gynllunio'r gweithlu;
  • Sicrhau bod sensitifrwydd i iaith hefyd yn glir ac yn amlwg yn yr holl brosesau a phenderfyniadau comisiynu, o gofio'r gyfran uchel o wasanaethau yn y GIG, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol sy'n cael eu contractio i drydydd parti.

'Hawl'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Gall ansawdd y gofal, y mae ein GIG, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ei ddarparu, gael ei fygwth drwy fethu â chyfathrebu â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn yr iaith sydd orau ganddynt.

"Ni all rhai pobl fynegi eu hanghenion gofal yn effeithiol ond drwy siarad Cymraeg.

"Mae pobl yn dewis derbyn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg oherwydd mai dyna sydd orau ganddynt a dyna yw eu hawl.

"Dylai egwyddorion sylfaenol y fframwaith arwain at newid mewn diwylliant, lle mae cyfrifoldeb y claf i ofyn am wasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ddileu a lle mae gwasanaethau yn Gymraeg yn cael eu cynnig yn rhagweithiol gan ein gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol.

"Bydd hyn yn gymorth i sicrhau bod pobl yn medru rheoli eu gofal, a gwybod a deall beth sy'n mynd ymlaen o'u cwmpas. Mae hynny'n hollol sylfaenol i sicrhau bod pobl yn cael eu trin ag urddas a pharch."