Darganfod corff dyn, 32, mewn parc yng Nghaerdydd

Corff Image copyright Media Wales

Mae corff dyn 32 mlwydd oed wedi ei ddarganfod mewn parc yng Nghaerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod aelod o'r cyhoedd wedi dod o hyd i'r corff am 08:00 ddydd Sul yng Nghaeau Llandaf.

Dydi'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.