Beiciwr modur wedi'i hedfan i ysbyty yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, Yr hofrennydd yn glanio yng Nghaerdydd

Mae beiciwr modur wedi cael ei hedfan i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ym Merthyr Tudful.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad cyn 3pm ddydd Sadwrn ym Mharc Beicio Cymru yn ardal Coed Gethin.

Cafodd y beiciwr ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Does dim gwybodaeth am ei gyflwr hyd yma.