Tywydd: 300 o dai heb drydan yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Nos Wener roedd 300 o dai yn y gogledd heb drydan oherwydd gwyntoedd cryfion.
Y llefydd gwaetha oedd Conwy, Corwen yn Sir Ddinbych ond bod problemau yn Y Bala, Trefriw a Llanrwst.
Dywedodd Scottish Power fod gwyntoedd cryfion wedi effeithio ar geblau trydan.
Tua 19:30 yng Nghapel Curig roedd y gwynt yn 78 mya.
Mae peirianwyr yn ceisio adfer y cyflenwad.
Bu'n rhaid i'r heddlu gau ffyrdd yn agos i barc manwerthu Mostyn Champneys yn Llandudno wedi i wyntoedd achosi difrod i siopau Curry's a Home Bargains.
Canslo trenau
Ynghynt roedd rhybudd y gallai gwyntoedd o dros 70 mya daro gogledd a chanolbarth Cymru dros y penwythnos.
Fe allai Storm Desmond arwain at ganslo trenau a llongau fferi ac achosi trafferth ar y ffyrdd, meddai'r Swyddfa Dywydd.
Mae rhybudd melyn "byddwch yn ymwybodol" mewn grym o 17:00 ddydd Gwener tan 06:00 fore Sul, gyda disgwyl mwy o law ddydd Sadwrn.
Ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru mae'r manylion diweddara am rybuddion llifogydd.
Achub o lifogydd
Nos Iau cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw i achub pedwar o bobl oedd yn sownd mewn car ar Heol Gwbert yn Aberteifi tua 20:15.
Cafodd grŵp arall o bobl eu hachub o gerbyd yng Nghastellnewydd Emlyn tua 19:00.
Roedd llifogydd wedi effeithio ar tua 20 o dai ar hyd yr A487, ac roedd nifer o griwiau tân ac achub yn delio gyda'r digwyddiadau.
Yn y de dywedodd y gwasanaethau brys bod yr achosion gwaethaf ym Merthyr Tudful ac Aberdâr, a dywedodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru bod rhai achosion o lifogydd yng Ngwynedd, ond bod y cyngor yn delio gyda'r digwyddiadau yma.
Mae'r rhybudd gwyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys.
Fe allai teithwyr trenau wynebu trafferthion wedi rhybudd y gallai ambell i lein gau ar fyr rybudd oherwydd llifogydd.
Yn ôl rhagolygon mae'n bosib y gallai glaw trwm a gwyntoedd cryfion barhau i daro ardaloedd o Gymru rhwng dydd Gwener a dydd Llun, ac fe allai hynny effeithio ar rwydwaith Trenau Arriva.
Y leiniau dan sylw yw'r rhai o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog ac o'r Amwythig i Fachynlleth.