Marwolaeth Berlin: Dyn wedi'i wenwyno gan gyffuriau

Ben Rees Image copyright Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Mae cwest wedi clywed fod trefnwr digwyddiadau o Aberdâr wedi marw ar ôl cael ei wenwyno gan gyffuriau.

Clywodd llys y crwner yn Aberdâr fod Ben Rees, 23 oed, yn Berlin gyda ffrindiau ym mis Gorffennaf, a'i fod wedi cymryd y cyffur ecstasi.

Bu farw Mr Rees ar ôl i'w organau fethu.

Cofnododd y crwner cynorthwyol, Graham Hughes, reithfarn o farwolaeth oedd yn gysylltiedig â chyffuriau.