Mike Phillips yn ymddeol o rygbi rhyngwladol

Mike Phillips

Mae mewnwr Cymru a Racing 92, Mike Phillips, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Mae Phillips, 33, wedi chwarae mewn 99 gêm brawf, 94 i Gymru a phump i'r Llewod.

Sgoriodd naw cais i'w wlad ac roedd yn aelod pwysig o'r carfannau wnaeth ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013, a dwy Gamp Lawn yn 2008 a 2012.

Ei gêm olaf i Gymru oedd y golled o 35-21 yn erbyn Iwerddon, mewn gêm baratoadol cyn Cwpan y Byd ym mis Awst.

Cafodd ei adael allan o'r garfan ar gyfer y gystadleuaeth yn wreiddiol, cyn i Warren Gatland ei alw i mewn yn dilyn anaf i Rhys Webb.

Ni chwaraeodd yn ystod y gystadleuaeth.

Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraeodd Mike Phillips yn y timau wnaeth ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2008, 2012 a 2013
Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraeodd ddwy gêm wrth i'r Llewod ennill y gyfres yn erbyn Awstralia yn 2013
Image copyright Getty Images
Image caption Roedd ei steil ymosodol yn aml yn arwain at ffraeo ar y cae

Chwaraeodd Phillips ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn Romania yn 2003, ac fe ddaeth yn ddewis cyntaf yn safle'r mewnwr pan ddaeth Gatland i'r llyw yn 2007.

Yn ei gêm gyntaf dan reolaeth Gatland, sgoriodd gais wrth i Gymru guro Lloegr o 26-19 yn Twickenham, y fuddugoliaeth gyntaf yno ers 20 mlynedd.

Mewnwyr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau i Gymru:

  • Mike Phillips - 94
  • Dwayne Peel - 76
  • Rob Howley - 59

Rhoddodd berfformiadau cofiadwy hefyd yn y chwarteri a'r rownd gynderfynol yng Nghwpan y Byd 2011, yn ogystal â'r golled o 31-30 yn erbyn De Affrica yn 2014.

Yn 2009, Phillips oedd y dewis cyntaf yn safle'r mewnwr ar daith y Llewod, gan chwarae pob un o'r gemau prawf yn erbyn y Springboks. Chwaraeodd ddwy gêm ar y daith i Awstralia yn 2013 hefyd wrth i'r Llewod ennill y gyfres o 2-1.

'Diolch'

"Mae hyn yn gyfle i ddod a'r cyfnod yma yn fy mywyd i ben," meddai.

"Mae chwarae i Gymru wedi bod yn rhan mor enfawr o fy mywyd ac mae hyn yn gyfle i ddweud diolch i bawb - o deulu i ffrindiau, hyfforddwyr a rheolwyr rygbi Cymru, yr holl chwaraewyr gwych yr wyf wedi bod yn ddigon ffodus i chwarae gydag ac yn eu herbyn, ac wrth gwrs y cefnogwyr ffantastig am eu cefnogaeth.

"Roedd yn freuddwyd i chwarae i Gymru, roedd yn golygu popeth i mi ac mae'n deimlad rhyfeddol i gynrychioli eich gwlad. I mi roedd yn fraint."

Image copyright @mikephillips009
Image caption Bydd Phillips hefyd yn cael ei gofio am ei hanes oddi ar y cae: y llynedd roedd yng nghanol ffrae gyda aelod o'r grwp One Direction ar wefan Twitter, er i'r ddau ddod yn ffrindiau yn fuan wedyn

Cafodd Phillips dipyn o sylw oddi ar y cae hefyd, a chafodd ei wahardd o'r tîm cenedlaethol yn dilyn ffrwgwd gyda bownsar yng Nghaerdydd yn hwyr un noson.

Er hynny, mae Phillips yn wythfed ar restr y chwaraewyr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau i Gymru, a bydd yn cael ei gofio fel un o fewnwyr gorau ei wlad.

Mae cytundeb Phillips gyda Racing yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ond mae wedi awgrymu ei fod yn goebeithio aros ym Mharis am gyfnod pellach.