Ffair Aeaf: Gweld ffermwyr 'fel busnesau'

Rebecca Evans AC

Mae'n rhaid i ffermwyr Cymru "ddibynnu llai ar daliadau Ewropeaidd yn y dyfodol", meddai'r dirprwy weinidog amaeth wrth i ffermwyr ddisgwyl am eu taliadau blynyddol.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru ar drothwy'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd, dywedodd Rebecca Evans bod "Llywodraeth Cymru yn gweld ffermwyr Cymru fel busnesau, ac mae'n rhaid iddyn nhw gystadlu mewn marchnad ryngwladol."

Wrth ymateb, dywedodd Stephen James, llywydd NFU Cymru, bod pawb ym myd amaeth eisiau bod yn llai ddibynnol ar fudd-daliadau hefyd, "ond mae eleni yn dangos mai'r taliad sy'n cadw ffermwyr i fynd ambell flwyddyn."

"Mae'n bwysig i'r Llywodraeth sylwi bod angen sicrhau bod ffermio'n talu, er mwyn denu pobol ifanc i'r diwydiant."

Mynd i'r wal

Gyda prisiau mae ffermwyr yn gael am gig oen a llaeth yn isel eleni, a llai o alw yn rhyngwladol am gynnyrch o Gymru, mae amaethwyr wedi bod yn cael trafferthion gyda llif ariannol.

Ym mis Medi roedd pryderon y byddai nifer o ffermwyr yn mynd i'r wal pe na byddai'r taliadau'n dod ar amser.

Yn ôl Glyn Roberts, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, mae angen gwneud y broses o gael grantiau i arall-gyfeirio ac i ddod yn fwy hunan gynhaliol yn symlach.

"Mae gormod o lawer o fiwrocratiaeth - mae hi'n anodd i ffermwyr wneud cais [am yr arian] heb fynd i weld ymgynghorydd - mae'r holl dap coch yn lladd yr holl beth," meddai.

Mi fydd dros hanner ffermwyr Cymru yn dechrau cael eu taliadau yn rhannol cyn diwedd yr wythnos.

Mae'r ffenestr dalu yn agor ar 1 Rhagfyr, ac mae disgwyl i'r rhan fwyaf o ffermwyr dderbyn 80% o'u taliadau cyn diwedd y flwyddyn, gyda'r 20% sy'n weddill gael ei dalu fis Ebrill.

Mae'r taliadau (Basic Payment Scheme, neu BPS) werth dros £240m i ffermwyr Cymru.

Straeon perthnasol