Cyhuddo dyn 28 oed o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Clarence Place nos Fawrth
Mae dyn 28 oed o Gasnewydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth wedi digwyddiad yn y ddinas nos Fawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Clarence Place am 19:50.
Roedd dau ddyn, un 28 oed ac un 36 oed, wedi cael eu trywanu.
Fe gafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, lle bu farw'r dyn 36 oed yn ddiweddarach.
Fore Gwener, fe gyhoeddodd swyddogion mai Rhys Jones, o Gasnewydd, yw'r dyn fu farw.