Cymru 4-0 Kazakhstan

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Hon oedd eu buddugoliaeth gynta wrth anelu at fod yn rowndiau Ewro 2017.

Sgoriodd Helen Ward dair gôl ym muddugoliaeth ysgubol Cymru yn erbyn Kazakhstan.

Roedd y gêm yn Hwlffordd a hon oedd eu buddugoliaeth gynta wrth anelu at fod yn rowndiau Ewro 2017.

Di-sgôr oedd hi erbyn yr egwyl cyn i Natasha Harding benio bum munud i mewn i'r ail hanner.

Ward oedd yr eilydd a sgroriodd ddwywaith o fewn dwy funud ac yn y munudau ola roedd y drydedd yn goron ar y cyfan.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Cymru yn y trydydd safle yng Ngrŵp 8, yn uwch na Kazakhstan ac Israel.