Gwobrwyo pensaer am ei waith

Stormy Castle yn Llanmadog, Penrhyn Gwyr gafodd ei gynllunio gan Chris Loyn Image copyright Charles Hosea
Image caption Stormy Castle yn Llanmadog, Penrhyn Gŵyr gafodd ei gynllunio gan Chris Loyn

Mae gwobr bensaernïol Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas 2015 wedi ei hennill gan Chris Loyn.

Dyfarnodd y beirniad fod ei dri tŷ, ym Mhenrhyn Gŵyr, Dinas Powys a Llysfaen, Caerdydd, wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i bensaernïaeth Gymreig dros y tair blynedd diwethaf.

Roedd yna ganmol hefyd i ddylanwad ei adeiladau, y defnydd o bensaernïaeth fodern a'i ymroddiad i annog penseiri ifanc.

Mae gwobr Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas yn cael ei chynnal bob tair blynedd.

Hwn yw'r pumed gwaith i'r wobr gael ei chyflwyno, gyda'r cyntaf yn 2003 yn cael ei hennill gan Tŷ Gwydr, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin.

Eleni roedd y seremoni yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Crefftau Rhuthun.