Cardota: Cyngor Casnewydd yn gwneud tro pedol
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Casnewydd wedi gwneud tro pedol yn hwyr yn y dydd ar gynllun dadleuol i wahardd cysgu ar y stryd yng nghanol Casnewydd.
Pleidleisiodd cynghorwyr o blaid y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, fyddai'n mynd i'r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol gan unigolion neu grwpiau.
Ond cafodd cyfyngiad ar gysgu ar y stryd ei dynnu o'r gorchymyn drafft, a chafodd gwaharddiad llwyr ar gardota ei addasu.
Mae'n golygu nawr "na all unrhyw un gardota mewn modd sy'n ymosodol neu'n dychryn, neu sy'n aflonyddu ar aelodau o'r cyhoedd".
Dywedodd y cynghorydd Bob Pool wrth gyfarfod o'r cyngor llawn: "Mae gan y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yr ystod a'r potensial i ddod â rhywbeth cadarnhaol iawn i'r ddinas.
"Rwyf hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd cael cydbwysedd rhwng amddiffyn y cyhoedd a pharchu hawliau sifil a rhyddid mynegiant a symud.
"Rwy'n credu fod polisïau sy'n bodoli'n barod i daclo ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn fwy addas na gwaharddiad llwyr."
Gwrthwynebiad
Ond roedd y Ceidwadwyr, sydd yn yr wrthblaid, yn dadlau fod angen parhau â'r gwaharddiad.
Dywedodd arweinydd yr wrthblaid, y cynghorydd Matthew Evans: "Mae'n rhaid i mi bwysleisio nad yw hyn yn ymosodiad ar y digartref.
"Mae gen i gydymdeimlad mawr. Mae 'na lawer i achos trist iawn rwyf wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd.
"Dydyn ni ddim yn wlad trydydd byd ac nid y 18fed ganrif yw hon. Ddylai neb fod yn cysgu ar ein strydoedd nac yn cardota ar strydoedd Casnewydd, neu unrhyw le arall yn y DU.
"Ar yr un pryd, ddylai pobl ddim gorfod mynd i'w gwaith mewn ofn, gan fynd heibio gwastraff dynol, cyfog neu nodwyddau wedi'u taflu."
Cynlluniau
O dan y gorchymyn newydd, mae 'na waharddiad ar fynd at bobl yn rheolaidd i geisio eu perswadio i danysgrifio i wasanaethau neu gyfrannu at elusennau.
Fydd dim modd chwaith gosod posteri yng nghanol y ddinas heb ganiatâd y tirfeddianwr, a bydd yn rhaid cadw cŵn ar dennyn sydd ddim hirach na 1.5m.
Mae 'na waharddiad hefyd ar yfed alcohol mewn mannau sydd ddim wedi'u cynnwys yn y Ddeddf Drwyddedu 2003.
Mae mudiad hawliau dynol Liberty - oedd wedi beirniadu'r cynigion cynharach - wedi croesawu'r newidiadau.
Meddai Rosie Brighouse, o'r mudiad: "Mae'r newidiadau hyn yn welliant sylweddol ac rydyn ni'n falch fod y cyngor wedi gweld synnwyr.
"Mae'r gwelliannau'n brawf o rym ein Deddf Hawliau Dynol ac ymgyrchu cymunedol.
"Mae'n ddychrynllyd fod cynigion tebyg i ddefnyddio gorchmynion i dargedu'r tlotaf mewn cymdeithas yn ymddangos ar hyd a lled y wlad. Rydyn ni'n gobeithio gweld mwy o awdurdodau'n dilyn esiampl Casnewydd ac yn gwneud tro pedol ar eu cynlluniau."
Mae disgwyl i'r gorchymyn ddod i rym yng Nghasnewydd yn y flwyddyn newydd, unwaith y bydd hysbysiadau cyhoeddus wedi'u gwneud.
Straeon perthnasol
- 6 Hydref 2015
- 27 Ebrill 2015