Pryder am ddyfodol clychau eglwys yn Wrecsam

St Giles Image copyright David Powell

Mae pryder am ddyfodol clychau eglwys plwyf Wrecsam, sydd wedi bod yn canu yn y dref ers bron i 300 mlynedd.

Mae'n bosib clywed clychau Eglwys San Silyn am filltiroedd pan mae'r grŵp sy'n canu'r clychau yn dod i ymarfer bob nos Fawrth.

Mae deg cloch i gyd, gafodd eu gosod yno tua'r flwyddyn 1726, ac mae'r mwyaf yn pwyso 1.2 tunnell.

Ond yn ôl un o'r rhai sy'n canu'r clychau, mae eu dyfodol yn ansicr.

£10,000

Mae 60 mlynedd wedi mynd heibio ers y tro diwethaf i unrhyw waith atgyweirio gael ei wneud ar y clychau, felly mae'r criw sy'n eu canu wedi lansio apêl er mwyn codi £10,000 i'w trwsio.

"Mae ffrâm sy'n dal y clychau yn mynd yn rhydlyd felly bydd angen ei baentio, ac mae angen rhoi tafod newydd ar y gloch," meddai Ian Maycock.

"Dyw'r eglwys ddim yn gallu fforddio i ariannu'r gwaith atgyweirio felly mae hi fyny i ni i edrych am arian o wahanol ffynonellau."

Image caption Mae'r grŵp sy'n canu'r clychau yn dod i ymarfer bob nos Fawrth
Image caption Mae Ian Maycock yn dweud bod dyfodol y clychau'n ansicr

Yn ôl Alistair Williams, hanesydd sy'n arbenigo yn hanes Wrecsam, mae clychau Eglwys San Silyn yn rhai eithaf anghyffredin.

"Maen nhw'n anghyffredin am ddau reswm," meddai.

"I ddechrau mae 'na ddeg ohonyn nhw. Does 'na ddim llawer o eglwysi a chymaint o glychau.

"A hefyd maen nhw wedi cael eu castio gan gwmni o Gaerloyw - Abraham Rudhall - un o'r rhai gorau ym Mhrydain am greu clychau yn y cyfnod."

Mae'n debyg bod y clychau wedi eu cludo i fyny Afon Hafren i'r Amwythig ac yna wedi eu cymryd i Wrecsam cyn cael eu gosod i'w lle yn nhŵr yr eglwys ganoloesol.

Mae tŵr eglwys San Silyn yn un o Saith Rhyfeddod Cymru, yn ôl cerdd a ysgrifennwyd yn y 18fed ganrif ac sy'n rhestru tirnodau pwysig eraill yng ngogledd Cymru.