Beirniadu cyngor cymuned am weithredu'n Gymraeg yn unig

Bennett
Image caption Mae siaradwyr Saesneg yr ardal o dan anfantais, meddai Nick Bennett

Mae cyngor cymuned "cyndyn" yn Sir Ddinbych wedi ei feirniadu am weithredu'n Gymraeg yn unig.

Drwy beidio darparu agendâu a dogfennau yn ddwyieithog, mae Cyngor Cymuned Cynwyd yn rhoi siaradwyr Saesneg yr ardal o dan anfantais, meddai'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae ymchwiliad gan Nick Bennett hefyd yn ei gyhuddo o "adael ei gymuned leol i lawr".

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe ddylai cynghorau fod yn gynhwysol gan sicrhau nad oes neb yn teimlo o dan anfantais.

Cwyn

Fe dderbyniodd yr ombwdsmon gŵyn gan aelod o'r cyhoedd, Mrs X (dienw), ynghylch cyfathrebu gwael y cyngor.

Mae Cyngor Cynwyd yn cynnal ei holl gyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg a dydi rhai o'i hysbysiadau ddim yn ddwyieithog.

Dywedodd yr ombwdsmon bod hynny'n eithrio, ac yn peri anfantais, i'r rhai sydd ddim yn deall Cymraeg.

Mae'r polisi yn atal Mrs X, sy'n ddi-Gymraeg, rhag cymryd rhan ym musnes y cyngor.

Fe gafodd Cyngor Cynwyd sawl cyfle i ddatrys y mater o'i wirfodd, ond gwrthododd hynny.

Image caption Mae Alwyn Parry Jones wedi dweud y dylai'r ombwdsmon ymddeol, gan wrthod y feirniadaeth

Mae Mr Bennett wedi cyflwyno nifer o argymhellion, gan gynnwys ei fod yn cyhoeddi ei holl agendâu yn ddwyieithog.

Ond mae Cyngor Cynwyd yn mynnu parhau i weithredu'n Gymraeg yn unig.

Yn wir mae clerc Cyngor Cymuned Cynwyd, Alwyn Jones Parry, wedi dweud nad yw'n credu bod gan y cyngor reswm i ateb, a dywedodd y dylai'r ombwdsmon ymddeol.

Stori 'Mrs X'

Fe wnaeth Karen Roden gyfadde' i BBC Cymru mai hi yw 'Mrs X', a'i bod yn croesawu adroddiad yr ombwdsmon.

Dywedodd bod y cyfan wedi dechrau gyda chais syml am agenda'r cyngor yn ddwyieithog, gan fod y cofnodion eisoes ar gael yn Saesneg.

"Dwi 100% y tu ôl i'r iaith Gymraeg," meddai. "Dydw i ddim yn disgwyl iddyn nhw gyflawni'u gwaith yn Saesneg i 'mhlesio i.. roeddwn i ond yn gofyn am yr agenda."

Ychwanegodd nad oedd yn disgwyl i gyfarfodydd gael eu cyfieithu ar y pryd gan y byddai hynny'n faich ariannol ar gorff cymunedol. Ond ychwanegodd ei bod yn fater o annog eraill i fod yn rhan o ddemocratiaeth leol.

Dywedodd hefyd ei bod wedi gwrthod £100 o daliad a argymhellwyd gan yr ombwdsmon, gan ddweud: "Fe fyddai hynny'n gorfod dod o goffrau cyngor cymuned."

Testun 'pryder'

Dywedodd yr ombwdsmon ei fod yn "llwyr gefnogi" yr egwyddor o gynghorau yn cynnal ei fusnes drwy gyfwng y Gymraeg.

Ond fe ddylen nhw hefyd ystyried nad yw'r rheiny sy'n siaradwyr Saesneg iaith gyntaf yn cael eu heithrio, ychwanegodd.

"Mae'n destun pryder fod y cyngor wedi bod mor gyndyn o newid yn ystod fy ymchwiliad," meddai Mr Bennett, "ac mae'r ffaith ei fod wedi gwrthod ymddwyn yn rhesymol yn golygu ei fod wedi gadael ei gymuned leol i lawr, y trigolion sy'n siarad Cymraeg a'r rhai sy'n siarad Saesneg.

"Mae'n siom fawr i mi fod Cyngor Cynwyd, drwy wrthod derbyn fy argymhellion cwbl resymol, wedi fy ngorfodi i gyhoeddi adroddiad er budd y cyhoedd."

Straeon perthnasol