Abertawe 2-2 Bournemouth

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, PA
disgrifiad o’r llunJonjo Shelvey yn achub Abertawe

Mae Abertawe wedi achub pwynt hollbwysig ar ôl brwydro 'nôl yn erbyn Bournemouth yn stadiwm Liberty.

Sgoriodd yr ymwelwyr ar ôl 10 munud- camgymeriad amddiffynnol yn arwain at gôl gan Josh King.

Fe ddaeth ail gôl Bournemouth chwarter awr yn ddiweddarach - Dan Gosling ag ergyd o 10 metr.

O fewn eiliadau roedd Abertawe wedi taro nôl - Andre Ayew yn twyllo'r golwr gydag ergyd o'i sawdl.

ffynhonnell y llun, PA
disgrifiad o’r llunAyew yn synnu amddiffyn Bournemouth

Yna fe ddaeth cic o'r smotyn i Abertawe - Jonjo Shelvey yn sgorio ar ôl i Ayew ddisgyn yn y cwrt cosbi.

Cyn y gic gyntaf fe gododd y dorf i'w traed i ganu La Marseillaise mewn arwydd o gefnogaeth i bobl Ffrainc yn dilyn erchyllterau ymosodiadau Paris.

ffynhonnell y llun, Getty Images
disgrifiad o’r llunLiberty, Egalité, Fraternité. Y dorf yn codi i ganu anthem genedlaethol Ffrainc