Pontypridd: Dyn yn euog o lofruddio Tracey Woodford

Mae rheithgor wedi dyfarnu bod cyn gigydd o Bontypridd yn euog o lofruddio dynes o'r dref cyn torri ei chorff yn ddarnau.
Fe lofruddiodd Christopher May, 50 oed, Tracey Woodford, 47, cyn cuddio rhannau o'i chorff yn ei fflat ac o amgylch tref Pontypridd ym mis Ebrill.
Roedd May wedi gwadu llofruddio Ms Woodford, ond fe benderfynodd y rheithgor yn unfryd ei fod yn euog ar ôl bod yn ystyried eu dyfarniad am 55 munud yn unig.
Wrth grynhoi'r achos, fe ddywedodd Y Barnwr Nicola Davies, ei bod yn "ffaith ddi-amheuol" fod May, yn ystod oriau mân y bore ar 22 Ebrill, wedi "achosi marwolaeth Tracey Woodford".
Fe ddywedodd Y Barnwr Davies hefyd y dylai'r rheithgor "roi unrhyw deimladau o emosiwn a allai gymylu eu barn i un ochr."
Roedd Christopher May wedi gwahodd Ms Woodford yn ôl i'w fflat wedi i'r ddau gyfarfod mewn tafarn yn y dref.
Clywodd y llys ei fod wedi ei thagu i farwolaeth cyn cael rhyw gyda'i chorff marw.
Aeth dau dditectif oedd yn ymchwilio i ddiflaniad Ms Woodford i'r fflat ac wrth agor llen y gawod yno fe welon nhw rywbeth "oedd yn ymdebygu i olygfa o ffilm arswyd".
Cafwyd hyd i dorso Ms Woodford mewn sachell yng nghwpwrdd May tra'r oedd ei phen wedi cael ei guddio 150 llathen i ffwrdd mewn twnnel.
Pan gyhoeddwyd y rheithfarn euog ar ôl i'r rheithgor ystyried am lai nag awr, daeth bonllefau o'r oriel gyhoeddus yn y llys.
Fe ddisgrifiwyd May fel "bwystfil" gan deulu Tracey Woodford. Mewn datganiad ar ddiwedd yr achos dywedodd y teulu:
"Does dim geiriau all ddechrau disgrifio'r hyn y mae Christopher May wedi ei wneud i'n teulu.
"Allwn ni ddim deall sut y gall unrhyw un drin bod dynol arall yn y modd yna.
"Nid dim ond llad Tracey a wnaeth y noson honno, ond lladd rhan ohonom i gyd."