Arestio gyrrwr ar ôl taro chwe cherbyd yn Nhrealaw
- Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr wedi ei harestio ar ôl taro chwech o gerbydau oedd wedi parcio ar ochr ffordd cyn troi drosodd gan achosi anafiadau difrifol i deithiwr.
Roedd y ddynes yn gyrru car Citroen Picasso glas ar hyd Heol Ynyscynon yn Nhrealaw am 07:45 fore Sul.
Fe gafodd ddau ddyn oedd yn teithio y tu ôl i'r ddynes mewn Citroen llwyd eu harestio yn ogystal.
Dywedodd y gwasanaeth tân bod y ddynes sydd wedi ei hanafu wedi gorfod cael ei thorri o'r car.
Bu'r ffordd ar gau am chwe awr ac mae Heddlu'r De yn apelio i unrhyw dystio i gysylltu â'r llu ar 101.