Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 30-12 Sale

Cais Rynard Landman Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Y capten Rynard Landman yn dathlu ei gais gydag Ashton Hewitt

Fe wnaeth y Dreigiau ennill eu gêm agoriadol yng Nghwpan Her Ewrop gyda phwynt bonws wrth iddyn nhw drechu Sale yn Rodney Parade.

Roedd y tîm cartref ar y blaen o 17-0 erbyn hanner amser ar ôl ceisiau Ollie Griffiths, Rynard Landman ag Adam Hughes.

Fe ddaeth Sale yn ôl wrth i James Mitchell a Jonathan Mills groesi'n gynnar yn yr ail hanner.

Ond fe wnaeth ddwy gic gosb Dorian Jones roi'r Dreigiau yn ôl mewn rheolaeth, cyn i gais Matthew Screech sicrhau pwynt bonws.