Gwrthdrawiad Ferrari: Dyn ag anafiadau difrifol

A483 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483, ffordd osgoi Wrecsam

Mae dyn wedi'i gymryd i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl i gar Ferrari fod mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483 i gyfeiriad y de ger cyffordd yr Orsedd am tua 10:45 fore Sadwrn.

Bu rhaid i'r gwasanaeth tân dorri'r to oddi ar y car, ac fe gafodd y dyn ei gymryd i Ysbyty Maelor yn y dref.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod anafiadau'r dyn yn rhai difrifol, ond ei fod mewn cyflwr sefydlog.