Gwaith i geisio atal llifogydd yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gosod amddiffynfeydd llifogydd yn Llanelwy
Mae'r awdurdodau'n gweithio i geisio atal llifogydd mewn rhannau o ogledd Cymru, gyda disgwyl i law trwm barhau nos Sadwrn.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod staff yn codi rhwystrau llifogydd dros dro mewn rhai mannau.
Mae rhybudd ambr "byddwch yn barod" am law trwm hefyd mewn grym ar gyfer Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gall hyd at 15cm o law ddisgwyn mewn rhai mannau o'r gogledd, gyda llifogydd o afonydd yn bosib.
Mae rhybudd melyn "byddwch yn ymwybodol" hefyd mewn grym ar gyfer Ceredigion, Sir y Fflint, Ynys Môn, Powys a Wrecsam.
Ffynhonnell y llun, Chris Gale
Tonnau'n taro goleudy Porthcawl ddydd Gwener