Arestio dynes wedi tân ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi ei harestio yn dilyn dau dân mewn lleoliadau gwahanol ar Ynys Môn dros nos.
Cafodd yr heddlu alwad am 02:04 yn dilyn adroddiadau fod car ar dân ym Miwmares.
Fe ddaeth ail alwad i'r heddlu am 03:12 ar ôl i gar gael ei roi ar dân yn Llanddona.
Mae dynes 20 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol a dwyn ac mae hi'n parhau yn y ddalfa.
Roedd ceir a ffenestri eiddo gerllaw wedi cael eu difrodi ond ni wnaeth neb ddioddef anaf yn dilyn y digwyddiadau.
Dywedodd y Sarjant Gethin Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd hwn yn ddigwyddiad unigol. Mae'r ymchwiliad yn mynd yn ei flaen ac rydym yn awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd wedi gweld y tanau hyn neu weld rhywun yn ymddwyn mewn ffordd amheus."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda swyddfa'r heddlu yn Llangefni drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnodau RC15174178 neu RC1514197.