Gwynedd: Cau rhagor o lwybrau cyhoeddus?
Bryn Jones
Manylu, BBC Radio Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae llwybrau cyhoeddus yn cau am nad ydi'r cyngor sir yn cadw at ei ddyletswyddau statudol i'w cadw'n agored, yn ôl cynghorydd o Wynedd.
Yn ogystal, mae rhybudd bydd mwy yn cau yn y dyfodol wrth i adran hawliau tramwy'r cyngor wynebu toriadau. Yn ôl cyn-bennaeth yr adran, dim ond tri aelod o staff fyddai'n gyfrifol am 4,000 cilomedr o lwybrau - o'i gymharu efo 15 aelod o staff ddegawd yn ôl.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn boblogaidd gyda cherddwyr oherwydd y golygfeydd trawiadol. Ond mae rhan o'r llwybr ger Nefyn, Pen Llŷn, wedi cau ers sawl blwyddyn oherwydd erydu - ac mae pryderon bod rhan arall o'r llwybr ar fin cau.
Dywed cynghorydd yr ardal bod swyddogion wedi methu yn eu dyletswyddau i gadw'r llwybr yn agored. Yn lle defnyddio eu hawl i symud y llwybr a'i gadw mor agos at y clogwyn â sy'n ddiogel, meddai, mae nhw wedi dargyfeirio ar hyd lôn tarmac bellter i ffwrdd o'r golygfeydd.
'Dyletswyddau statudol'
Dywedodd y Cynghorydd Gruffydd Williams wrth raglen BBC Cymru Manylu: "Be dwi isho Cyngor Gwynedd 'neud ydi cadw at y dyletswyddau statudol s'geno nhw, mynd draw i'r tai a rhoi gorfodaeth rolio i fewn fel bod y llwybr yma unwaith yn rhagor yn cael ei defnyddio gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
"Fedra i ddim cael fy mhen rownd bod rhwyun yn y swyddfa yn fa'na wedi meddwl bod dim pwysigrwydd i'r llwybr yma - sef Llwybr Arfordirol Cymru, a'u bod nhw'n fodlon arni yn cael ei arallgyfeirio ar lôn hanner milltir o'r arfordir, heb ddim golygfeydd o Borthdinllaen.
"Wel mae o'n warthus bod nhw wedi cadw'r llwybr ar gau cyhyd. Faswn i'n dweud bod o'n amlwg, dydi, bod nhw ddim yn cymryd y rhan yma o'r byd o ddifri."
Ddeng mlynedd yn ôl roedd 15 o bobl yn gweithio yn adran hawliau tramwy Cyngor Gwynedd, ac yn gyfrifol am 4,000 cilomedr o lwybrau.
Gyda niferoedd staff yr uned wedi haneru erbyn heddiw, mae cyn-bennaeth yr adran yn rhybuddio yn erbyn cynlluniau i wneud mwy o doriadau, rhag i fwy o lwybrau gau.
'Yn amhosib'
Fe ddywedodd David Coleman mai dim ond tri aelod o staff fyddai ar ôl os ydi'r cyngor yn derbyn un o'r argymhellion."I mi mae'n amhosib gwneud y gwasanaeth o gwbwl," meddai.
Ychwanegodd: "Dydyn nhw ddim yn son am dorri'r gwaith o gwbwl, ond does dim ond adnoddau yno rwan i gynnal a chadw 40% o'r rhwydwaith. Ond efo'r toriadau gwaeth mae nhw'n son amdanyn nhw, dwi ddim yn gweld bod posib gwneud llai na 20%."
Fel awdurdodau lleol ar draws Cymru, mae Cyngor Gwynedd yn gorfod gwneud arbedion. Ar hyn o bryd, mae nhw'n ymgynghori efo'r cyhoedd ynglŷn â'r opsiynau mae nhw wedi eu hargymell i wneud y £7m o arbedion - ac ymysg yr opsiynau mae torri £330,000 yn yr uned hawliau tramwy.
Y cynghorydd Dafydd Meurig ydi'r aelod cabinet ar y cyngor sy'n gyfrifol am yr adran hawliau tramwy.
Mae o'n cydnabod y byddai mwy o doriadau yn gwaethygu'r sefyllfa - ond bod rhaid torri nôl yn rhywle.
Meddai: "Mi fydd hi yn anoddach. Hynny ydi mae'n rhaid gwneud toriadau mewn sawl maes. Os yda ni'n gwneud toriadau yn maes hawliau tramwy, ydi mae hynny'n golygu bod hi'n mynd i fod yn anoddach.
"Yn yr run modd, os yda ni'n gwneud y toriadau rheiny ym maes trafnidiaeth, ella fydd cyflwr ffyrdd yn mynd yn waeth. Yda ni'n gwneud y toriadau mewn addysgu, gofal gwasanaethau gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid...lle yda ni'n gwneud y toriadau?
"Dyna pam ryda ni eisiau gwybod beth ydi blaenoriaethau pobol Gwynedd a dyna pam mae'n bwysig eu bod nhw'n cymryd rhan yn y broses ymgynghori."
Manylu, BBC Radio Cymru, dydd Iau 11 Tachwedd, 12:32; ail-ddarllediad dydd Sul 15 Tachwedd, 13:32.