Nicola Sturgeon yn beirniadu sylw Huw Lewis

Nicola Sturgeon a Kezia Dugdale
Image caption Roedd Nicola Sturgeon yn anghytuno â barn Kezia Dugdale am sylw Huw Lewis

Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud "y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu dychryn gan yr anallu" mewn sylw gafodd ei briodoli i Weinidog Addysg Cymru.

Roedd arweinydd Llafur yr Alban, Kezia Dugdale, wedi sôn wrth gylchgrawn Holyrood am sgwrs gyda Huw Lewis, pan ofynnodd hi iddo o le fyddai'n cael y cyllid ar gyfer rhai addewidion mawr.

"Dywedodd y byddai'n poeni am hynny yn nes ymlaen", meddai Ms Dugdale gan ychwanegu bod "beiddgarwch a gonestrwydd" sylw Mr Lewis wedi creu argraff arni.

Ond dywedodd arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon fod y sgwrs yn "ddadlennol".

'Yn dweud cyfrolau'

Yn ôl llefarydd ar ran y gweinidog addysg: "Roedd yr ystyr yn glir iawn - rydych chi'n penderfynu ar eich blaenoriaethau gwleidyddol gynta', wedyn gweithio ar y cyllido.

"Os nad ydych yn gallu eu fforddio, yna naill ai nid ydych yn bwrw ymlaen neu'n newid rhywbeth i wneud yn siŵr y gallwch wneud hynny.

"Mae'n dweud cyfrolau am arddull reoli'r SNP fod hyn, mae'n ymddangos, wedi eu drysu."

Yn y cyfweliad yng nghylchgrawn Holyrood dywedodd Ms Dugdale: "Rwy'n credu bod y polisi addysg sy'n cael ei ddatblygu yng Nghymru yn wirioneddol ddiddorol, yn ddiwygiadol ac yn eithaf radicalaidd mewn rhai ffyrdd.

"Dywedais wrth Huw fod eu cyllideb yn cael ei thorri a bod pwysau eraill gan y GIG sy'n achosi heriau yng Nghymru ac yn y blaen.

'Ewyllys'

"Gofynnais iddo: 'Ble ydych chi'n dod o hyd i'r arian ar gyfer yr ymrwymiadau mawr eraill?' a dywedodd y byddai'n poeni am hynny yn nes ymlaen.

"Dyna weinidog y llywodraeth yn y Cynulliad - yr hyn sy'n bwysig iddo ef yw'r ewyllys gwleidyddol i wneud rhywbeth".

Dywedodd Nicola Sturgeon wrth Senedd yr Alban, gan gyfeirio at y sylw a briodolwyd i Mr Lewis: "Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu dychryn gan yr anallu".

Image caption Roedd Kezia Dugdale yn canmol "beiddgarwch a gonestrwydd" Huw Lewis

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.