Damwain Merthyr: Trydydd dyn wedi marw

Mae dyn arall wedi marw wedi damwain car laddodd ddau arall ym Merthyr Tudful fis diwethaf.
Roedd y dyn wedi bod yn ddifrifol wael yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd wedi i gar Seat Ibiza gwyn daro yn erbyn polyn telegraff tua 22:30 ar 11 Hydref.
Bu farw Rhys Jones, 18 oed, a Ryan Gibbons, 20 - y ddau o Fargoed, Caerffili - yn y fan a'r lle.
Fe gafodd dyn 20 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, a'i ryddhau ar fechnïaeth.
Fe ddywedodd Heddlu De Cymru nad oedd car arall yn rhan o'r digwyddiad.