Cartrefi ar safle pentref myfyrwyr Prifysgol Abertawe
- Cyhoeddwyd

Gallai hyd ar 270 o gartrefi gael eu hadeiladu ar y safle
Mae disgwyl y bydd cynlluniau ar gyfer 300 o dai yn ardal pentref myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cael eu cymeradwyo ddydd Mawrth.
Fe gafodd y safle yn Hendrefoilan ei werthu dwy flynedd yn ôl i'r datblygwr St Modwen - oedd yn gyfrifol am adeiladu campws £450m y Brifysgol yn y bae.
Mae'r safle presennol yn cartrefu dros 1,600 o fyfyrwyr ond bydd y campws newydd yn gallu darparu llety i nifer tebyg pe bai'r cartrefi yn cael eu cymeradwyo.
Mae cynllunwyr Cyngor Abertawe wedi cael eu hannog i gymeradwyo'r cartrefi.