BBC Cymru Fyw

Elusen Stonewall yn gwobrwyo Nigel Owens

Published
image captionNigel Owens (dde) yn derbyn ei wobr gan Cyfarwyddwr Stonewall Cymru Andrew White
Mae'r dyfarnwr Nigel Owens wedi'i enwi fel person chwaraeon y degawd gan elusen cydraddoldeb rhyw Stonewall.
Yn eu 10fed mlynedd, roedd y gwobrau yn Llundain yn cydnabod unigolion a mudiadau sydd wedi gwneud "cyfraniad arbennig" i fywydau pobl hoyw, deuryw a thrawsrywiol.
Fe aeth Nigel, 44 oed, ar Twitter i ddweud ei fod yn "anrhydedd" i dderbyn y wobr.
Nigel oedd yn dyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd yn Twickenham ddydd Sadwrn, ond ei gyfrifoldeb nesaf fydd gêm rhwng dau dîm pentref yn Abertawe.