Tân canolfan hamdden: Cyhuddo pedwar o bobl ifanc

Splash Magic
Image caption Fe wnaeth y ganolfan ailagor ar ei newydd wedd ym mis Rhagfyr y llynedd

Mae pedwar o bobl ifanc wedi'u cyhuddo o losgi bwriadol yn dilyn tân yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc yn Wrecsam.

Mae'r pedwar - rhwng 14 ac 16 oed - wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth i ymddangos gerbron llys ieuenctid.

Fe wnaeth y tân ar 4 Hydref adael difrod mwg yn y brif neuadd chwaraeon.

Fe wnaeth y gymuned gymryd rheolaeth o'r ganolfan y llynedd wedi iddi gael ei chau gan Gyngor Wrecsam.