Tashwedd: Mae e dan eich trwynau!

Published

Mae'n fis Tachwedd a bydd ambell un yn ymateb i'r her elusennol flynyddol i dyfu mwstas er mwyn codi arian at achosion da.

Ond ydy hyn yn newyddion da i bawb?

Fel rhan o'n dyletswydd i gynnig gwasanaeth i'r cyhoedd, mae Cymru Fyw am ddangos i chi sut byddai ambell i wyneb adnabyddus yn edrych gyda mwstas.

**RHYBUDD** Mae'r erthygl yn cynnwys delweddau allai beri gofid i'r mwyafrif!

image captionYn siwtio un, ond nid y llall. Gewch chi benderfynu...
image captionDelwedd newydd i Titus Monk ar gyfer Gŵyl Rhif 6 blwyddyn nesaf?
image captionMae Dai'n edrych yn dipyn o ŵr bonheddig chwarae teg
image captionMae'n edrych yn debyg fod Dylan Ebenezer yn chwilio am feic 'penny farthing'
image captionMae Ifan Evans yn edrych yn hynod cŵl gydag un
image captionYn gweddu Gerallt i'r dim
image captionMae Mari Lovgreen yn falch iawn o'i gwallt coch llachar. Mwya'i gyd... gorau i gyd!
image captionArwr ein barbwr bach ni?
image captionMae'n ychwanegu 'gravitas' i'r darlledwr Huw Edwards
image copyrightGetty Images
image captionA 'dyw'r mwstas ffug ddim yn gweddu Ian Rush o gwbl... daliwch 'mlaen funud...

Os hoffech chi weld sut olwg fyddai ar un o enwogion Cymru gyda 'tash' ar gyfer Tashwedd, cysylltwch gyda ni, a wnawn ni geisio greu llun. (Mae'r gwasanaeth hyn yn gynwysiedig yn eich ffi drwydded)

Twitter: @BBCCymruFyw