Cloddio ym Môn

archeoleg
Image caption Olion o'r cyfnod Neolithig yn Antequera, Sbaen

Ym mis Hydref 2015, fe wnaeth prosiect i adeiladu ysgol newydd yn Llanfaethlu ar Ynys Môn arwain at ddarganfyddiadau go arbennig yn dyddio 'nôl miloedd o flynyddoedd.

Bydd Neil Johnstone, rheolwr treftadaeth Menter Môn, yn trafod effeithiau mwy pellgyrhaeddol y cloddio mewn cyfweliad ar BBC Radio Cymru ddydd Llun, ac mae hefyd wedi bod yn siarad gyda Cymru Fyw:


Y gorau o'u math

Mae cloddio ddiweddar yn Llanfaethlu wedi datgelu olion cymuned yn dyddio o'r cyfnod Neolithig tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Hwn oedd y cyfnod i'r ffermwyr cyntaf setlo ym Mhrydain.

Mae'r olion yn cynnwys gweddillion archeolegol tri o dai, adeiladau coed hirsgwar a tua 2,000 o greiriau gafodd eu darganfod yn ystod y cloddio.

Mae Ynys Môn yn adnabyddus am ei siambrau claddu Neolithig - Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu. Maen nhw yn cael eu hystyried ymhlith yr enghreifftiau gorau o'u math yn y Deyrnas Unedig.

Image caption Barclodiad y Gawres, Ynys Môn

Mae'r safloedd yma wedi cael eu hastudio gan archeolegwyr ac maen nhw yn rhoi darlun o fywydau'r cymunedau cyntaf o ffermwyr yng Nghymru.

Bydd y wybodaeth sydd wedi cael ei chasglu o'r cloddio yn Llanfaethlu yn darparu tystiolaeth bwysig o'r cymunedau hyn a mae'n bosib y byddan nhw yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o'u dulliau o amaethu a'u harferion bwyta, ymysg agweddau eraill.

Mae 'na gysylltiadau rhwng y siambrau claddu oedd yn cael eu defnyddio gan y ffermwyr yma gyda henebion tebyg yn Iwerddon, fel Negrange a Douth.

Yn wir roedd y traddodiad hwn o gladdu'r meirw yn cael ei ddefnyddio yn eang ar ochr Orllewinol Ewropeaid Môr yr Iwerydd.

Cyd-weithio ar draws Ewrop

Yn ddiweddar rydym ni a chynrychiolwyr o Ewrop wedi bod yn cyd-weithio i rannu gwybodaeth am y traddodiad. Cafodd astudiaeth ddiweddar ei chynnal yn Antequera yn Andalusia, Sbaen.

Mae tair cromlech yno ar gyrrion y dre - Menga, Viera, a El Romeral. Mae 'na gais i gael statws Treftadaeth y Byd UNESCO iddyn nhw.

Maen nhw'n henbion arwyddocaol, gyda thebygrwydd i siambrau claddu tebyg ym Mhrydain.

Mae'r tebygrwydd hwn a'r hanes diddorol rhyngddyn nhw yn rhoi potensial i gael grantiau Ewropeaidd i gyd-weithio gyda phartneriaid o Bortiwgal, Sbaen, Yr Alban, Iwerddon a Llydaw er mwyn hyrwyddo ein treftadaeth gyffredin.

Image caption Bryn Celli Du, Ynys Môn

Y prif nod fyddai sefydlu prosiect rhwng y gwledydd yma i edrych ar y berthynas rhwng treftadaeth, bwyd, a ffermio, ac asesu'r posibilrwydd o ail-greu a hyrwyddo'r themâu.

Mae gwaith eisoes ar droed i edrych ar wahanol ffyrdd o gyd-weithio, a'r gobaith yw y bydd y cloddio yn Llanfaethlu yn gwella ein dealltwriaeth o'r hanes yma 'dyn ni'n ei rannu efo gwledydd eraill Ewrop.


Bydd Neil Johnstoneyn siarad ar raglen Dan yr Wyneb gyda Dylan Iorwerth ar BBC Radio Cymru, ddydd Llun 2 Tachwedd am 18:15.