Achos heddlu: Rheithgor newydd

heddlu Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Christopher Evans, Michael Stokes a Stephen Phillips yn gwadu'r cyhuddiadau

Mae rheithgor newydd wedi ei ddewis ar gyfer achos llys tri heddwas sy'n gwadu dwyn miloedd o bunnoedd yn ystod cyrchoedd yn ardal Abertawe.

Fe ddywedodd y Barnwr Eleri Rees wrth y rheithgor newydd eu bod nhw wedi eu galw wedi "nam technegol" ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd fod y Ditectif Sarjant Stephen Phillips, 47 oed, a'r ddau Dditectif Gwnstabl, Christopher Evans, 38, a Michael Stokes, 35, wedi eu cyhuddo o ddwyn mwy na £30,000.

Dywedodd yr erlynydd, Peter Griffiths: "Yn anffodus, mae yna, yn aml, ddrwg yn y caws mewn sefydliadau mawr.

"Yn fyr, mae hwn yn achos o lygredd o fewn yr heddlu".

Mae'r tri'n gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn ac mae disgwyl i'r achos bara am saith wythnos.